RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 4DARPARIAETHAU ATODOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH
24Ymgorffori ac addasu darpariaethau atodol
(1)
Nid yw darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori.
(2)
Mae darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny.
(3)
Nid oes unrhyw effaith i gytundeb o dan is-adran (1) neu (2) a fyddai’n gwneud teler atodol mewn contract meddiannaeth yn anghydnaws ag un o delerau sylfaenol y contract.
(4)
Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).