RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU SY’N BODOLI CYN I’R BENNOD HON DDOD I RYM

239Diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill

(1)

Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—

(a)

contract cyfyngedig;

(b)

tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(c)

tenantiaeth ddiogel;

(d)

tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(e)

tenantiaeth ragarweiniol;

(f)

tenantiaeth isradd.

(2)

Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.

(3)

Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).