Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

239Diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—

(a)contract cyfyngedig;

(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(c)tenantiaeth ddiogel;

(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(e)tenantiaeth ragarweiniol;

(f)tenantiaeth isradd.

(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 239 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 239 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2