RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 2TRESMASWYR: TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU GOBLYGEDIG

238Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

os yw annedd nad yw’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson (“T”) sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno, a

(b)

os yw T yn gwneud taliadau mewn perthynas â’i feddiannaeth o’r annedd i berson (“P”) y byddai ganddo hawl (boed ar ei ben ei hun neu ar y cyd) i ddod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr.

(2)

Os yw P yn derbyn taliadau o’r fath gan T—

(a)

gan wybod bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)

ar adeg pan ddylai P wybod yn rhesymol bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd,

mae P i’w drin fel pe bai wedi gwneud contract cyfnodol â T yn union ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol.

(3)

Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae P yn derbyn taliad oddi wrth T fel y crybwyllir yn is-adran (2).

(4)

Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn dod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin T fel tresmaswr mewn ffordd arall.

(5)

Mae contract o dan is-adran (2) naill ai’n denantiaeth neu’n drwydded.

(6)

Mae’r denantiaeth neu’r drwydded yn rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(7)

Mae swm y rhent a’r cyfnodau rhentu i’w pennu gan roi sylw i swm ac amlder y taliad neu’r taliadau a wneir gan T ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

(8)

Ni chaiff tenantiaeth neu drwydded sy’n rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref oddi tani fod yn oblygedig ac eithrio fel y darperir yn yr adran hon; ond nid oes dim yn yr adran hon yn atal P a T rhag gwneud tenantiaeth neu drwydded ffurfiol o’r fath cyn diwedd y cyfnod perthnasol.