RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Rhwymedigaethau landlordiaid cymunedol i ymgynghori

234Trefniadau ymgynghori

(1)

Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn⁠—

(a)

er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a

(b)

er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.

(2)

Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—

(a)

ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a

(b)

ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3)

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.

(4)

Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—

(a)

rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu

(b)

newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.

(5)

Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—

(a)

y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu

(b)

tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.

(6)

Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—

(a)

ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu

(b)

meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).

(7)

Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).