Valid from 01/12/2022
231Terfynu contract meddiannaeth sydd â chyd-ddeiliaid contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os oes cyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, ni ellir dod â’r contract i ben drwy weithred gan un neu ragor o gyd-ddeiliaid y contract yn gweithredu heb y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 231 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)