RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 4DARPARIAETHAU ATODOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

23Darpariaethau atodol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod darpariaethau a ddynodir yn y rheoliadau wedi eu hymgorffori fel telerau contractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25); at ddibenion y Ddeddf hon, mae darpariaethau o’r fath yn “ddarpariaethau atodol”.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu tyb hwy cyn gwneud Rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)

Mae adrannau 112 a 131 yn rhoi pwerau pellach i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol yn ymwneud â therfynau amser ar gyfer cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol (ac mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori yn unol ag is-adran (2) cyn defnyddio’r pwerau hynny).

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru, o dan is-adran (1), ragnodi bod darpariaeth mewn deddfiad yn ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(5)

Yn y Ddeddf hon—

mae i “darpariaeth atodol” (“supplementary provision”) (heblaw mewn perthynas ag adrannau 255 a 256) yr ystyr a roddir yn is-adran (1) o’r adran hon;

ystyr “teler atodol” (“supplementary term”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth atodol (ynghyd ag addasiadau neu heb addasiadau iddi).