RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 14CYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
Gwahardd cyd-ddeiliaid contract
227Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contract
(1)
Os yw cyd-ddeiliad contract (“A”) yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract arall (“C”) y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth—
(a)
yn meddiannu’r annedd, na
(b)
yn bwriadu ei meddiannu,
caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.
(2)
Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
(3)
Rhaid i A roi hysbysiad i C—
(a)
yn datgan bod A yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,
(b)
yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu A mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac
(c)
yn hysbysu C y gall hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract gael eu terfynu os yw A yn fodlon, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.
(4)
Rhaid i A roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3)—
(a)
i’r landlord, a
(b)
os oes cyd-ddeiliaid contract heblaw A ac C, i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill hynny.
(5)
Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i A wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ei fodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.
(6)
Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff A, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.
(7)
Os yw’r llys yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, caiff wneud y gorchymyn y gwneir cais amdano o dan is-adran (6).
(8)
Ond ni chaiff wneud y gorchymyn os gellir priodoli’r ffaith nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, i’r ffaith bod A neu gyd-ddeiliad contract arall wedi methu â chydymffurfio ag adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).
(9)
Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
(10)
Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.