Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

227Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw cyd-ddeiliad contract (“A”) yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract arall (“C”) y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth—

(a)yn meddiannu’r annedd, na

(b)yn bwriadu ei meddiannu,

caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.

(2)Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i A roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod A yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu A mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac

(c)yn hysbysu C y gall hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract gael eu terfynu os yw A yn fodlon, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Rhaid i A roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3)—

(a)i’r landlord, a

(b)os oes cyd-ddeiliaid contract heblaw A ac C, i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill hynny.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i A wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ei fodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff A, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.

(7)Os yw’r llys yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, caiff wneud y gorchymyn y gwneir cais amdano o dan is-adran (6).

(8)Ond ni chaiff wneud y gorchymyn os gellir priodoli’r ffaith nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, i’r ffaith bod A neu gyd-ddeiliad contract arall wedi methu â chydymffurfio ag adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(9)Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(10)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 227 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 227 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2