224Hawliau mynediadLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu’n rhesymol bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
(2)Caiff y landlord fynd i’r annedd unrhyw bryd er mwyn ei gwneud yn ddiogel neu i ddiogelu ei chynnwys ac unrhyw osodion neu ffitiadau, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
(3)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 224 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 224 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2