xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â diogelu eiddo (ac eithrio eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw contract i ben o dan adran 220, a’i draddodi i’w berchennog.
(2)Caiff y rheoliadau, ymysg pethau eraill—
(a)darparu bod traddodi eiddo yn amodol ar dalu treuliau yr aed iddynt gan y landlord;
(b)awdurdodi gwaredu eiddo ar ôl cyfnod rhagnodedig;
(c)caniatáu i’r landlord gymhwyso unrhyw enillion o werthi eiddo tuag at dalu’r treuliau yr aed iddynt gan y landlord a’r symiau sy’n ddyledus gan ddeiliad y contract o dan y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 221 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 221 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1