RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 13CEFNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

220Meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt

(1)

Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd yn unol â’r adran hon.

(2)

Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)

Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract—

(a)

yn datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd,

(b)

yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os nad yw deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, ac

(c)

yn hysbysu deiliad y contract o fwriad y landlord i derfynu’r contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(4)

Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(5)

Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (4), derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract.

(6)

Daw’r contract i ben pan roddir yr hysbysiad o dan is-adran (5) i ddeiliad y contract.

(7)

Os terfynir contract meddiannaeth o dan yr adran hon caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd heb achos llys.

(8)

Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i ddeiliad y contract.

(9)

Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi o hysbysiad o dan is-adran (5) i unrhyw letywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract.