xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 3LL+CDARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

22Pwerau o ran darpariaethau sylfaenolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth;

(b)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sydd ar y pryd yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth, yn peidio â bod yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau nad yw—

(a)adran 20(1) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol;

(b)adran 20(2) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 22 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2