RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 3DARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

22Pwerau o ran darpariaethau sylfaenol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)

darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth;

(b)

darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sydd ar y pryd yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth, yn peidio â bod yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau nad yw—

(a)

adran 20(1) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol;

(b)

adran 20(2) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol.

F1(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .