RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)
Seiliau meddiant absoliwt mewn perthynas â chontractau safonol
216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).
(2)
Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—
(a)
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
(b)
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,
rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)
Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.
(4)
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).