RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)
Seiliau meddiant absoliwt mewn perthynas â chontractau safonol
215Seiliau rhoi hysbysiad
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys os—
(a)
yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 neu 191 (hysbysiad deiliad y contract) neu adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), a
(b)
yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
(2)
Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys os—
(a)
yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu 199 (hysbysiad y landlord), a
(b)
yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
(4)
Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(5)
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).