RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 11HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)

214Pwerau i ohirio ildio meddiant

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 212.

(2)

Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio hyd ddyddiad diweddarach.

(3)

Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)

Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.