(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—
(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu
(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.
(2)Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.
(3)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.
(4)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
(5)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—
(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;
(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
(6)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.