RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 11HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)

213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—

(a)

bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)

bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)

Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(3)

Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.

(4)

Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(5)

Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)

rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)

gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(6)

Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.