Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwtLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(3)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.

(4)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(5)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(6)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 213 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 213 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2