Valid from 01/12/2022
212Sail hysbysiad deiliad y contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os—
(a)yw’r landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 (hysbysiad deiliad y contract), a
(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 213 (adolygiad gan y llys sirol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 212 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)