RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 10HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
209Sail tor contract
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).
(2)
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
(3)
Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.
(4)
Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.