209Sail tor contractLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).
(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
(3)Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.
(4)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 209 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 209 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2