RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 9HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
205Gorchmynion adennill meddiant
(1)
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ond ar un neu ragor o’r seiliau yn—
(a)
adran 157 (tor contract);
(b)
adran 160 (rheoli ystad);
(c)
adran 165 (hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);
(d)
adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);
(e)
adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);
(f)
adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);
(g)
adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(h)
adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);
(i)
adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol);
(j)
adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).
(2)
Pan fo’n ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail nad yw wedi ei phennu yn hysbysiad adennill meddiant y landlord.
(3)
Ond caiff y llys ganiatáu addasu neu ychwanegu at y sail (neu’r seiliau) a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant ar unrhyw adeg cyn i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant.