RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 9HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

204Hawliadau meddiant

(1)

Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—

(a)

os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—

F1(i)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(ii)

adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);

(iii)

adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);

(iv)

adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

(v)

adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

(vi)

adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol F2tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth);

(vii)

adrannau F3177, 177A a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

(viii)

adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

(ix)

adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(x)

adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

(xi)

adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xii)

adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol F4tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth);

(xiii)

adrannau F5...198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xiv)

adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig),

F6(xv)

Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol), neu

(b)

os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.

(3)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).