RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 8ADOLYGIAD GAN LANDLORD O BENDERFYNIAD I ROI HYSBYSIAD YN EI GWNEUD YN OFYNNOL ILDIO MEDDIANT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG)

202Adolygiad o benderfyniad i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig

(1)

Nid yw’r adran hon yn gymwys ond mewn perthynas â chontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

(2)

Os yw’r landlord yn penderfynu rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu i roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.

(3)

Rhaid gwneud cais am adolygiad i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.