xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 7LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlordLL+C

201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F1

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 201 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 201 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2