xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 01/12/2022
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F1—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.