Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

200Cyfyngiad ar adran 199LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 200 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2