RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 3DARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH
20Ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol
(1)
Nid yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth—
(a)
os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori, a
(b)
osF1... effaith peidio â’i hymgorffori yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.
(2)
Mae darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi—
(a)
os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny iddi, a
(b)
osF2... effaith ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.
(3)
Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)
adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(b)
adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(c)
adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(d)
adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 (amrywio contractau diogel),
(e)
adrannau 122(1)(b) a (2) a 127 (amrywio contractau safonol cyfnodol),
(f)
adran 134(1)(b) a (2) a 135 (amrywio contractau safonol cyfnod penodol),
(g)
adran 148 (terfynu a ganiateir),
(h)
adran 149 (hawliadau meddiant),
(i)
adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(j)
adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F3(k)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(l)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(m)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(n)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(o)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(p)
paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol)F4, a
(q)
Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).
(4)
Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).