RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF
Cyflwyniad i Rannau 1 a 2 ac i brif gysyniadau’r Ddeddf hon
2Mathau o landlord
(1)
Mae’r Ddeddf hon yn darparu (yn Rhan 2)—
(a)
ar gyfer dau fath o landlord—
(i)
landlordiaid cymunedol (sef awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mathau eraill o awdurdod), a
(ii)
landlordiaid preifat (sef unrhyw landlord heblaw am landlord cymunedol);
(b)
y caiff y ddau fath o landlord wneud, neu fabwysiadu, mathau penodol o gontract meddiannaeth (er bod hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol).
(2)
Yn gyffredinol—
(a)
contractau diogel yw contractau meddiannaeth a wneir â landlordiaid cymunedol, neu a fabwysiedir ganddynt, a
(b)
contractau safonol yw contractau a wneir â landlordiaid preifat, neu a fabwysiedir ganddynt,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol.