RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlordLL+C

[F1198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 198 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 198 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2