RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlord

F1198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgar

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)

landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a

(b)

y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)

Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.