RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
Cymal terfynu’r landlord
198Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: gofynion sicrwydd a blaendal
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
a
bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
b
bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
3
Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
4
Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
5
Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.