Valid from 01/12/2022
[F1198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]