RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
Cymal terfynu’r landlord
197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth
(1)
Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.
(2)
Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
(3)
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
(4)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.