Valid from 01/12/2022
196[F1Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth]LL+C
(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o [F218 mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F4(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),
F5...
Diwygiadau Testunol
F1A. 196 heading wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(2), 19(3)
F2Geiriau yn a. 196(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(a), 19(3)
F3A. 196(2) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(b), 19(3)
F4A. 196(3) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(b), 19(3)
F5Geiriau yn a. 196(4) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 18
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)