RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlord

F1195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8A

(1)

Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—

(a)

yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a

(b)

o fewn Atodlen 8A.