Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

[F1195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8ALL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—

(a)yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol