RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlord

195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)

Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na F1chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

F2(2)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)

nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)

sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).