Valid from 01/12/2022
195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na [F1chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
[F2(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 195(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 2(2)(a), 19(3)
F2A. 195(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 2(2)(b), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)