194Cymal terfynu’r landlordLL+C
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol [F1sydd o fewn is-adran (1A)] gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
[F2(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu
(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).]
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 194(1) wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 11(1)(a), 19(3)
F2A. 194(1A) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 11(1)(b), 19(3)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
C2A. 194 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 194 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2