RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
Cymal terfynu’r landlord
194Cymal terfynu’r landlord
(1)
Caiff contract safonol cyfnod penodol F1sydd o fewn is-adran (1A) gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
F2(1A)
Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—
(a)
os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu
(b)
os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).