Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Valid from 01/12/2022

189Cymal terfynu deiliad contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)