186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol [F1contract sydd o fewn Atodlen 9B] LL+C
(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol [F2sydd o fewn Atodlen 9B], cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)[F4O] ran y dyddiad a bennir—
(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a
(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F5(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol [F6sydd o fewn Atodlen 9B.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn pennawd a. 186 wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(2), 19(3)
F2Geiriau yn a. 186(1) wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(a), 19(3)
F3A. 186(2) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(b), 19(3)
F4Gair yn a. 186(3) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(c), 19(3)
F5A. 186(4) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(d), 19(3)
F6Geiriau yn a. 186(8) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(e), 19(3)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
C2A. 186 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 186 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2