RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlord

186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol F1contract sydd o fewn Atodlen 9B

(1)

Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol F2sydd o fewn Atodlen 9B, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

F3(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)

F4O ran y dyddiad a bennir—

(a)

ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a

(b)

ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

F5(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(6)

Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(7)

Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol F6sydd o fewn Atodlen 9B.