RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 6CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL: DIWEDD Y CYFNOD PENODOL

184Diwedd y cyfnod penodol

(1)

Mae contract safonol cyfnod penodol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y’i gwneir ar ei gyfer.

(2)

Os yw deiliad y contract yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, mae’r landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.

(3)

Mae gan y contract newydd—

(a)

dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol, a

(b)

cyfnodau rhentu sydd yr un fath â’r rheini yr oedd rhent yn daladwy ar eu cyfer ddiwethaf o dan y contract cyfnod penodol.

(4)

Mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract newydd heb eu haddasu.

(5)

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), mae i’r contract newydd yr un telerau â’r contract cyfnod penodol yn union cyn iddo ddod i ben.

(6)

Nid yw contract meddiannaeth newydd yn dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) os yw’r landlord a deiliad y contract wedi gwneud contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) sydd â dyddiad meddiannu yn union ar ôl i’r contract cyfnod penodol ddod i ben.

(7)

Os, cyn neu ar ddyddiad meddiannu contract meddiannaeth newydd sy’n dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) neu (6)—

(a)

yw deiliad y contract yn ymrwymo i rwymedigaeth i gyflawni gweithred a fydd yn peri i’r contract newydd ddod i ben, neu

(b)

yw deiliad y contract yn rhoi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a fyddai, oni bai am yr is-adran hon, yn peri i’r contract newydd ddod i ben,

ni ellir gorfodi’r rhwymedigaeth neu (yn ôl y digwydd) nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad neu’r ddogfen.

(8)

Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan is-adran (2).