RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
Terfynu contractau safonol cyfnodol a oedd yn gontractau safonol cyfnod penodol
183Perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol
(1)
Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—
(a)
hysbysiad adennill meddiant, F1...
(b)
hysbysiad o dan adran 186,F2neu
(c)
hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,
y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.
F3(2)
Mae adrannau 179 a 180—
(a)
yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a
(b)
yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.
(3)
Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(4)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).