xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—
(a)hysbysiad adennill meddiant, F1...
(b)hysbysiad o dan adran 186,[F2neu
(c)hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,]
y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.
[F3(2)Mae adrannau 179 a 180—
(a)yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a
(b)yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.]
(3)Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 183(1) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(a)(i)
F2A. 183(1)(c) ac gair wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(a)(ii)
F3A. 183(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 183 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2