RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan landlord: ôl-ddyledion rhent difrifol

182Cyfyngiadau ar adran 181

(1)

Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.

(2)

Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)

cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)

ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)

Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)

cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)

ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)

Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac

(a)

mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)

mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.